Sharing good practice in education across Europe

Cymraeg

Cymraeg

Mae grantiau ar gael bellach dan raglen Transversal er mwyn cyfrannu at ddatblygiad proffesiynol unigolion sy’n ymwneud ag addysg a dysgu seiliedig ar waith. Welsh flag

Mae rhaglen gyffrous o Ymweliadau Astudio ar gyfer Arbenigwyr Hyfforddiant Galwedigaethol ac Addysg yn galluogi gweithwyr addysg proffesiynol i gymryd rhan mewn rhaglen o weithgareddau mewn gwlad Ewropeaidd arall am wythnos. Byddwch yn dysgu am arferion a systemau addysg ac yn cael y cyfle i ymweld ag ysgolion a cholegau, cyfarfod ymarferwyr a chlywed gan gyflogwyr, undebau llafur a chyrff sectorol. Yn ogystal, gallwch rwydweithio gyda’ch cymheiriaid Ewropeaidd gan feithrin cysylltiadau a phartneriaethau newydd at ddibenion cydweithio yn y dyfodol.

Fel arfer, bydd Ymweliadau Astudio yn canolbwyntio ar themâu arbennig ym maes addysg neu hyfforddiant galwedigaethol, ac mae rhai o’r ymweliadau a gynigir ar hyn o bryd yn cynnwys:

  • Addysg amgylcheddol ac dosbarthiadau yn yr awyr agored yng Ngwlad Pwyl
  • Ffyrdd gwell o addysgu iaith dramor yn Sbaen
  • Rôl rhieni mewn addysg yn Nenmarc
  • Darpariaeth i’r rhai sy’n gadael ysgol heb gymwysterau yn yr Almaen
  • Addysg i oedolion ac addysg alwedigaethol yn yr Iseldiroedd
  • Sut i ddenu pobl ifanc i hyfforddiant galwedigaethol yn Sweden

Mae cyfranogwyr a’u sefydliadau yn elwa wrth iddynt ddysgu am arferion ac ymagweddau newydd ym myd addysg – mae ymweliadau yn rhoi’r cyfle i chi rannu eich arbenigedd gyda gweithwyr proffesiynol eraill, gan ddysgu am y gwahanol ffyrdd o weithio ar draws Ewrop.

Pryd fydd yr ymweliadau hyn yn digwydd?

Cynhelir yr holl ymweliadau rhwng mis Mawrth 2011 a mis Mehefin 2011. Mae’r Catalog Ymweliadau yn rhoi manylion llawn am bob ymweliad gan gynnwys y dyddiadau, y lleoliad a’r gweithgareddau y byddwch yn cymryd rhan ynddynt.

Sut allwch chi ymgeisio?

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 15 Hydref 2010. Mae modd gweld y Ffurflen Gais a’r Catalog Ymweliadau ar-lein trwy droi at www.transversal.org.uk.

Sut allwch chi gael gwybod mwy?

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag ECOTEC ar 0845 199 3939 neu anfonwch e-bost at studyvisits@ecotec.com.

Wales Film 2008
Watch the LLP Wales film (64000kB)*

Helpline: 0845 199 3939

Other Funding Programmes

Opportunities for everyone involved in vocational education and training in the UK

Opportunities for adult education providers and learners in the UK

Transversal UK National Agency, ECOTEC Research & Consulting Ltd,
Haines House, 28-34 Albert Street, Birmingham, B4 7UD

Site by Nemisys